Llun o logo’r Samariaid  Disgrifiad a gynhyrchwyd yn awtomatig 

 
Y Grŵp Trawsbleidiol ar Atal Hunanladdiad – noddwyd gan Jayne Bryant AS

Dydd Mawrth 30 Ionawr 2024

Cyfarfod hybrid

 

Yn bresennol:

Yn yr ystafell: Jayne Bryant MS, Neil Ingham (y Samariaid), Emma Gooding (y Samariaid), Amelia Cahill (y Samariaid) Claire Cotter (Gweithrediaeth GIG Cymru), Lynne Neagle AS, Yr Athro Ann John (Prifysgol Abertawe), David Heald (Papyrus)

Ar-lein: Deborah Job (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr), Sian Bamford (Heddlu Dyfed Powys), Jess Read (4 Mental Health), Willow Holloway (Anabledd Cymru/Autistic UK/FTWW), Laura Tranter (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda), Ceri Lovell (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro), George Watkins (Mind Cymru), Debbie Shaffer (FTWW), Bethan Hodges (y Samariaid), Emma Kneebone (2Wish), Jenny Prow (SOBS), Dafydd Curry (Heddlu Gogledd Cymru), Jayne Bell (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro), Jackie Williams (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan), Ceri Fowler (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro), Hannah Wenden (Gweithrediaeth GIG Cymru), Dr David Williams (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan), Clare Sturman (The Sammy-sized GAP), Paul Allchurch (Diverse Cymru), Maggy Corkhill (Co-Alc Alliance), Kay Helyar (Sefydliad DPJ), Jemma Rees (Gweithrediaeth GIG Cymru), Roger Bassett-Jones (Advocacy Support Cymru), Briony Hunt (y Samariaid), Gareth Davies (Tir Dewi), Christina Gwyther (y Samariaid), Becky Twose (Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys), Oliver Townsend (Platfform), Matthew Belcher (EYST), Kate Miles (Sefydliad DPJ), Karen Wescombe (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro), Charlotte Knight (y Senedd), Jillian Purvis (y Senedd).

 

Ymddiheuriadau: Steve Siddall (RNLI), Alys Cole-King (4 Mental Health), Llyr Gruffydd AS, Derek Walker (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru), Phil Sparrow (Heddlu De Cymru) Rachael Robins (4 Mental Health).

 

12.15pm: Croeso, cyflwyniadau, a chofnodion y cyfarfod blaenorol

Agorodd Jayne Bryant AS y cyfarfod, gan ddiolch i bawb am fod yn bresennol. Eglurodd y gallai peth o’r deunydd a fyddai’n cael ei drafod yn y cyfarfod beri trallod i rai. Nododd y gallai’r rhai a oedd yn bresennol gamu i ffwrdd o’r cyfarfod a chael seibiant o'r trafodaethau pe byddai angen iddynt wneud hynny, a bod hawl iddynt ofyn am gymorth yn dilyn y cyfarfod hefyd.

 

12:20pm Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol – enwebu’r deiliaid swyddi a phleidleisio arnynt

Eglurodd Jayne y byddai'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn cael ei gynnal, a throsglwyddodd yr awenau i Neil Ingham o'r Samariaid i egluro'r broses. Eglurodd Neil fod angen ethol Cadeirydd. Ar wahân i Jayne, ni chafwyd unrhyw enwebiadau ar gyfer y rôl. Cafodd Jayne ei hethol yn Gadeirydd. Eglurodd Jayne fod angen cynnal pleidlais mewn perthynas â rôl yr ysgrifenyddiaeth hefyd. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill ar gyfer y rôl honno. Cadarnhawyd y byddai’r Samariaid yn parhau i gyflawni rôl yr ysgrifenyddiaeth.

 

12:25pm: Emma Gooding (Rheolwr Polisi a Chyfathrebu, Samariaid Cymru) - Ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar Hunanladdiadau yng Nghymru – beth maen nhw'n ei ddweud wrthym?

Eglurodd Emma’r sleidiau yn ei chyflwyniad ar ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar hunanladdiadau yng Nghymru. Ar gyfer 2020-22, Merthyr Tudful oedd â’r gyfradd hunanladdiadau uchaf, gyda Sir Fynwy, Powys a Blaenau Gwent yn dilyn. Esboniodd Emma fod y cyfraddau ymhlith pobl ddi-waith 12 gwaith yn uwch na grwpiau statws cyflogaeth eraill. Roedd 74% o farwolaethau yn ymwneud â phobl a oedd wedi bod yn hysbys i’r heddlu yn flaenorol.

Cafwyd trafodaeth am rai o’r ffactorau risg ar gyfer hunanladdiad – anghydraddoldeb, bod yn ddyn, a bod mewn cysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol.

 

Ychwanegodd Emma fod angen inni feddwl ynghylch pa gamau y mae angen eu cymryd mewn ymateb i'r ystadegau hyn. Soniodd am sut mae datblygu’r strategaeth hunanladdiad a hunan-niwed newydd i Gymru yn cynnig cyfle gwirioneddol i gael pethau’n iawn a chreu newid gwirioneddol. Soniodd Emma am brofiadau byw ac am gryfder grwpiau cymunedol a gwasanaethau lleol a’r hyn y maent yn ei ddarparu i bobl yn eu hardaloedd lleol. Mae angen i ni ddatblygu gwasanaethau ar gyfer grwpiau sydd mewn perygl, a gwrando ar bobl o ran yr hyn sydd ei angen arnynt.

 

Bu trafodaeth am effaith colli swyddi Tata Steel a dywedodd Lynne Neagle AS ei bod yn falch bod y Samariaid yn gwneud gwaith i estyn allan at y gymuned leol. Pwysleisiodd y Samariaid yr angen brys i gyfeirio at wasanaethau ac argaeledd cymorth. Mae'n debyg bod y rhai yr effeithir arnynt hefyd yn mynd at eu meddygon teulu ac yn rhyngweithio â gwasanaethau eraill lle gallai fod cyfleoedd pellach i gael cymorth. Soniodd yr Athro Ann John fod cyfraddau hunanladdiadau’n tueddu i godi cyn i gyfraddau cyflogaeth ostwng, felly mae hyn yn rhywbeth i fod yn ymwybodol ohono. Ychwanegodd fod pobl am gael cyfeirio clir ac eglurder ynghylch yr hyn y gellir ei hawlio a’r cymorth sydd ar gael iddynt. Esboniodd Emma ei bod yn aneglur sut mae’r ymgysylltu cymunedol hwn yn cael ei ariannu a phwy sy’n cadw’r wybodaeth sydd ei hangen ar bobl. Mae’r Samariaid yn awyddus i sicrhau bod pobl yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

 

Soniodd Emma hefyd am waith partneriaeth y mae’r Samariaid yn ei wneud gyda Tir Dewi a’r ffaith y byddwn yn lansio prosiect wedi’i ariannu sy’n canolbwyntio ar ffermwyr ifanc. Soniodd Ann am y ffaith bod 90% o bobl yn cysylltu â gwasanaethau iechyd cyn iddynt farw a bod llawer o bwyntiau cyswllt i bobl gael cymorth. Mae angen inni sicrhau bod cymorth ar gael i bobl a bod hwnnw’n lleol, gan nad yw rhai am glywed am y llinellau cymorth cenedlaethol sydd ar gael. Siaradodd y grŵp am argaeledd gwasanaethau llinell gymorth, ond bod angen i ystod amrywiol o gefnogaeth fod ar gael i bobl mewn gwahanol ffyrdd. Efallai nad y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o hunanladdiad yw’r rhai a fyddai’n estyn allan a ffonio llinellau cymorth. Mae angen ymagwedd dim drws anghywir i bobl gael cymorth. Ychwanegodd Ann fod adroddiad diweddar y System Gwyliadwriaeth Hunanladdiad Amser Real (RTSSS) yn dangos y grwpiau risg uchel i ni ac y dylem ganolbwyntio ar y meysydd hynny.

 

Dywedodd Kate Miles yn y sgwrs ar-lein ei bod yn falch bod y gymuned ffermio wedi cael ei chrybwyll a bod adroddiad ADAS ar effeithiau economaidd cynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn rhagweld y bydd 5,500 o swyddi’n cael eu colli o ffermydd Cymru os bydd y cynigion yn mynd yn eu blaenau. Nid yw hyn yn cynnwys y swyddi a gollir yn y diwydiannau cymorth (2,900 yn Tata Steel a 10,000 o blith contractwyr).

 

Wrth drafod colli swyddi Tata Steel, gofynnodd Jackie Williams yn y sgwrs ar-lein a fyddai unrhyw gamau cydgysylltiedig yn cael eu cymryd, a allai tîm Iechyd y Cyhoedd yng Ngwent (gyda hi fel person cyswllt) gymryd rhan gan fod Llanwern yn yr ardal honno. Byddai’n well ganddynt gael dull cydgysylltiedig yn hytrach na’r holl asiantaethau unigol yn mynd at Tata Steel ar yr un pryd.

 

Siaradodd y grŵp am sut nad yw pawb sydd mewn trallod yn teimlo bod angen llinell gymorth iechyd meddwl arnynt. Awgrymodd Maggy Corkhill yn y sgwrs ar-lein y gellid edrych ar opsiynau eraill megis llinell wybodaeth cocên i gynnig cefnogaeth i bobl. Wrth drafod gwasanaeth 111 pwyso 2, soniodd Clare Sturman ei bod wedi clywed nifer o adroddiadau nad oedd system opsiwn 111 pwyso 2 yn gweithio yn eu hardal gyda defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu hunain "yn mynd yn ôl ac ymlaen" rhwng meddygon teulu ac 111 pwyso 2. Cytunodd Kate Miles y byddai'n dda cael mwy o wybodaeth am sut mae gwasanaeth 111 pwyso 2 yn gweithio.

 

Ychwanegodd Kate hefyd fod Sefydliad DPJ wedi gweld cysylltiad rhwng cyflyrau iechyd corfforol cronig/poen a marwolaeth drwy hunanladdiad ac mae'n ymddangos bod pob fforwm atal hunanladdiad a hunan-niwed yn wynebu heriau o ran ymgysylltu â meddygon teulu. Ychwanegodd ei bod yn ymddangos bod cyfle yma i ddylanwadu ac o bosibl wneud newid cadarnhaol, ond bod angen ystyried sut. Mae Sefydliad DPJ wedi gwneud rhywfaint o waith gyda meddygon teulu dan hyfforddiant a chyda phresgripsiynwyr cymdeithasol a arweinir gan feddygon teulu/ymarferwyr iechyd meddwl ond mae cyrraedd y meddygon teulu hynny sy’n ymarfer pan fyddant eisoes wedi cyrraedd eu capasiti yn dipyn o her.

 

12:45pm Claire Cotter (Arweinydd y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, Gweithrediaeth y GIG) - Diweddariad ar y rhaglen a chynlluniau mewn ymateb i ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol

 

Rhannodd Claire ei sleidiau ac aeth drwy rai o'r ystadegau diweddaraf ar hunanladdiadau yng Nghymru. Siaradodd am amcanion strategol, yn enwedig yn ymwneud â data ac ymchwil. Soniodd Claire am yr angen i fod yn ofalus o ran yr hyn yr ydym yn dewis ei ddadansoddi o ran data. Dywedodd Ann John fod Cymru'n ymddangos fel rhanbarth â chyfradd uchel o hunanladdiadau, yn rhannol oherwydd y ffordd y mae rhanbarthau'n cael eu grwpio o ran amddifadedd. Soniodd Ann am ddata ar y rhai a fu farw drwy hunanladdiad dros 10 mlynedd a’r effaith ar y plant a’r bobl ifanc o’u cwmpas.

 

Dywedodd Neil Ingham mai 'Adeiladu a Chrefftau Medrus' yw'r grŵp cyflogaeth y cofnodwyd y nifer uchaf o hunanladdiadau ar ei gyfer yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, ond bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cofnodi tua dwywaith cymaint o farwolaethau o dan alwedigaeth ‘ddi-ddosbarth’ o fewn yr un set ddata. Ychwanegodd fod angen hefyd gyfatebu nifer y marwolaethau fesul galwedigaeth â chymhareb y boblogaeth oedran gweithio o fewn y grwpiau galwedigaeth hynny, er mwyn gwella’r ddealltwriaeth o risg.

 

Gofynnodd Kate Miles a oedd gwybodaeth ar gael am nifer y cwestau sydd wedi cael eu gohirio (h.y. ar gyfer 2021, 2022 a 2023). Gofynnodd Paul Allchurch hefyd yn y sgwrs ar-lein a oes ystadegau ar gael ar ystadegau ar gyfer hunanladdiad a’r gymuned BAME. Cadarnhaodd Briony Hunt yn y sgwrs ar-lein fod adroddiad RTSSS yn dweud bod data yn ôl grŵp ethnig, cyfeiriadedd rhywiol a galwedigaeth yn anghyflawn ac felly nid yw’r rhain yn ymddangos yn yr adroddiad a ryddhawyd yn ddiweddar.

 

Gofynnodd Clare Sturman ynghylch y defnydd o alcohol a chyffuriau yn cyfrif am 22% ac a fydd canllawiau penodol ar gyfer hynny ochr yn ochr â’r canllawiau cam-drin domestig. Dywedodd Kate Miles y byddai’n ddefnyddiol deall beth mae “hysbys i’r heddlu” yn ei gynnwys: ai rhywun sydd wedi bod yn destun ymchwiliad/arestiad/erlyniad ydyw ynteu a yw hefyd yn cynnwys dioddefwyr trosedd, deiliaid trwydded gwn, pobl sy’n hysbys trwy ymgysylltu â’r gymuned ac ati. Cadarnhaodd Deborah Job yn y sgwrs ar-lein ei bod yn credu ei fod yn cynnwys ‘hysbys i’r heddlu’ am resymau lles (nid ymgysylltu â’r gymuned). Gofynnodd Jayne Bell am yr ystadegyn ynghylch 47% â salwch meddwl a sut mae presenoldeb salwch meddwl yn cael ei nodi.

 

1.05pm: Camau nesaf a phwnc y cyfarfod nesaf 

Trafodwyd pwnc posibl ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol a fyddai’n canolbwyntio ar risg a menopos. Awgrymwyd hefyd y gellid gwahodd y Comisiynydd Plant i gyfarfod yn y dyfodol i siarad am dlodi plant.

 

1.15pm: Diwedd